PM Studios logo

Ffotograffiaeth ac Ysgrifennu gan Paul L.G. Morris

Ffotograffydd ac awdur amryddawn a chreadigol
"The unusual and the overlooked".

Ffotograffiaeth ac Ysgrifennu i gylchgronau a gwefanau:


a view of the roof of St. David's Cathedral from Paul

Mae Paul Morris yn ffotograffydd ar ei liwt ei hun ac yn awdur, ac un o’r nodweddau sydd yn ei wahaniaethu yw ei fod yn barod i ffotograffio ac ysgrifennu am yr hyn sydd yn anarferol ac wedi ei esgeuluso. Gyda sawl mlynedd o brofiad yn dilyn y greft greadigol ô ffotograffiaeth, yn gypledig gyda profiad mwy diweddar fel awdur erthyglau cylchgronau ag ô ddelweddaeth digidol, mae Paul erbyn hyn yn medru cyflawni comisiynau ar ei liwt ei hun.

Gallwch gomisiynu Paul Morris i ffotograffio neu ysgrifennu i chi: ebostiwch Paul ar y ffurflen sydd ar y dudalen gyswllt, neu os ydych eisiau sgwrs, Skype (eto ô’r dudalen gyswllt). Gwelwch y dudalen cleient am fanylion ô rhestr cleientiaid Paul.

Ynglŷn a Ffotograffiaeth Paul:

Mae Paul yn ceisio bôd yn wahanol gan ei fod yn barod i ffotograffio yr hyn sydd yn anarferol â wedi ei esgeuluso, sydd yn medru ei fod yn gallu creu portfolio o luniau sydd yn wahanol i’r cyffredinol. Gobeithwyd fydd y safle hon a hefyd ei galeriau yn cynnig arwyddion ô’r amlbwrpasedd â’r sgiliau mae Paul yn arddangos yn ei luniau. Os oes gydach unrhyw ymholiadau, eisiau comisiynu Paul, defnyddio delwedd, neu eisiau prynnu print, cysylltwch gydag ef drwy ddefnyddio y dudalen gyswllt ar y safle yma.

Mae byw mewn tyddyn yng nghanolbarth Cymru wledig yng Ngorllewin y Deyrnas Unedig wedi rhoddi’r cyfle i Paul i ffotograffio amrywiaeth o bynciau ô dan amodau gwahanol. Mae’r tyddyn yn darparu nifer ô bethau amrywiol i’w ffotograffio fel ffwngau, blodau, tirluniau, pryfed, anifeiliaid a hen beiriannau. Mae gwaith ffotograffiaeth cyfagos â macro yn hyfrydwch yn yr ardal hon sydd, mewn gwirionedd, heb gael ei cofrestru yn organig, ond sydd yn fwy nag organig mewn egwyddor. Yn ogystal, mae’r treithiau amgylchiedig â’r olygfa cefn gwlad yn darparu cyfoeth ô gyfleuon ffotograffiaidd â newyddiadurllyd.

Hefyd, mae Paul yn ysgrifennu blog rheolaidd am ei ffotograffiaeth. Yn y blog mae’n trafod y cyfleon y dynnu lluniau, y technegau â ddefnyddiwyd, y llwyddiannau â’r methiannau. Ewch i ymweld â’r blog â ychwanegu sylwadau addas.

Ynglŷn â erthyglau Paul ar gyfer cylchgronau a gwefanau:

Daw profiad ysgrifennu dechreuol Paul oddiwrth awduro erthyglau technegol i gylchgronau arbenigol cyfrifiaduron – un wedi ei gyhoeddi yn yr Unol Dalieithau ac un arall yn y Deyrnas Unedig. Mae o’n ysgrifennu mewn fordd sydd yn egluro materion technolegol bod pobol â dim profiad yn medru eu darllen gan ddal i gadw diddordeb y darllenwr blaengar. Ewch i dudalen ysgrifennu y safle yma am rhagor ô wybodaeth.

Mae ysgrifeniadau eraill yn cynnwys rhai i gylchgronau tyddynod, lle mae profiad Paul ô rhedeg tyddyn gyda’i wraig wedi bod yn destun i erthyglau cyhoeddedig. Mewn paratôad mae na erthyglau ar dyddynod, sgiliau gwledig â technegau ffotograffig i’r cylchgronau ar gyfer y rhai brwydfrydig. Un actifedd mae Paul yn cael galw mawr arno yw’r hyn am ysgrifennu copi ar gyfel gwefanau sydd yn addas i’r darllenwr, ond hefyd sydd yn galluogi peiriannau archwilio i fynegi y tudalenau gwe yn fwy effeithiol.

Ysgrifennu am yr amgylchedd naturiol â’r cefn gwlad:

Mae byw mewn, a rhedeg tyddyn yn galluogi Paul i weld agwedd ô fywyd sydd yn gwneud cyferbyniad croesawgar i’r diwylliant cyfrifiedig lle wnaeth gychwyn ei ysgrifenniadau. Mae hyn wedi ei dywys at ysgrifennu i gylchgronau amrywiol sydd yn gysylltiedig gyda cefn gwlad, tyddynod â bywoliaeth wledig. Yn ychwanegol, mae rhagor ô erthyglau yn cael eu darparu ar gyfer cyhoeddiadau ehangach. Cewch fanylion ô’r eitemau â awdurwyd gan Paul ar y dudalen Ysgrifenniadau Wledig.

Cymraeg ar y safle hon:

Er gweithaf gwneud pôb ymdrech i ddysgu, mae Paul yn ei gweld yn anodd i feistroli’r Iaith Gymraeg. Mae byw a gweithio yng Nghymru wedi rhoddi gwerthfawrogiad i Paul am y bwysigrwydd ô ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Bydd Paul yn gobeithio fôd y dudalen yma yn rhoddi dealldwriaeth i’r darllenwyr Cymraeg am ei waith, mewn iaith y maent yn gysurus gyda.


Mae’r cyfieithiad hyn wedi ei ddarparu gan Marilyn Thomas ô Evergreen Cleaning Services.

AddThis Social Bookmark Button email a friend
let them know!
AddThis Feed Button

Selection of Pictures (2):

Digital photograph of shears being sharpened by Paul L.G. Morris
An Abstract digital photograph by Paul L.G. Morris
Digital photograph of a Ceredigion sunset by Paul L.G. Morris
Digital photograph of a Ceredigion evening sky by Paul L.G. Morris
Digital photograph of a farmhouse in the snow by Paul L.G. Morris
Digital photograph of Cactus Flowers by Paul L.G. Morris
Digital photograph of a snow scene by Paul L.G. Morris
Digital photograph of a Cactus Flower by Paul L.G. Morris

This text is replaced by the PM studios wide banner logo and is placed at the top of the page.

This text is replaced by the vertical name logo and is placed in the top left corner.